|  |
 |
 |
 |
 |
 |
|
 |
Chwyn Joe Pye a Phincas Robin Rhwng llên gwerin i lên-yddiaeth
Adolygiad Glyn Evans o lyfr Bethan Wyn Jones, Clogyn Joe Pye a Phincas Robin. Llyfrau Llafar Gwlad. Gwasg Carreg Gwalch. £5.50. Pe na byddai iddo unrhyw rinwedd arall mae llyfr Bethan Wyn Jones yn sicr yr un gyda'r teitl mwyaf anghyffredin i'w gyhoeddi yn y Gymraeg ers tro.
Wrth gwrs, mae mwy i'r gyfrol na theitl da.
Fel; sawl un arall bum yn dilyn yn selog erthyglau Bethan am ryfeddodau byd natur a gyhoeddir yn Yr Herald bob wythnos ac felly'n croesawu gweld yr erthyglau hynny'n wedi eu cywain dan y teitl gogleisiol hwn.
Fel "ysgrifau ar ryfeddodau a llên gwerin byd natur" maen nhw'n cael eu disgrifio a dau o ryfeddodau'r gyfrol ydi Chwyn Joe Pye a Phincas Robin.
Y tyfiant hwnnw sy'n edrych fel blodyn gwalltog ar blanhigion rhosod gwyllt ydi Pincas Robin ond dydi o ddim yn flodyn o gwbwl ond yn amddiffyniad mae'r planhigyn yn ei greu i wy math o wenynen.
Wedi i'r wenynen ddodwy ei hwy mae'r planhigyn yn adweithio trwy dyfu'r Pincas o gwmpas yr wy - yn yr un modd ag y mae'r peli bychain brown yna yn cael eu creu ar goed derw.
Mae i'r Pincas gysylltiadau llenyddol - wedi ei enwi, o bosib, ar ôl Robin Goodfellow sef Puck yn nrama A Midsummer Night's Dream gan Shakespeare.
Diddordeb llenyddol Y diddordeb hwn mewn cysylltiadau llenyddol sy'n gwneud llyfr natur Bethan Wyn Jones yn wahanol i lyfrau natur eraill.
Gwelir hynny o'r cychwyn cyntaf un gyda dyfyniad o waith Waldo Williams yn ei herthygl gyntaf am yr Eirlys:
Gwyn, gwyn Yw'r gynnar dorf ar lawr y glyn. O'r ddaear ddu y nef a'u myn
Wrth drafod y Fwyalchen mae'n cyfeirio at ddisgrifiadau gwahanol feirdd o gân y deryn du gyda T Llew Jones yn gweld tebygrwydd rhyngddi a chân Caruso ond meddai Myrddin ap Dafydd: Hyfryted â Phav'roti A'i solo'n Domingo i mi.
Yn yr America Fel sy'n gweddu i bapur newydd lleol planhigion ac anifeiliaid ei milltir sgwâr sy'n cael sylw Bethan Wyn Jones, er, ym Mhennsylvania yr Unol Daleithiau y daeth ar draws enw'r planhigyn arall yn nheitl y gyfrol, Chwyn Joe-Pye (mae'n amrywio'r sillafiad o fod gyda ac heb heiffen.)
Pan glywodd yr enw Americanaidd, meddai: "Wel, dyma ddechrau codi 'nghlustiau. Roedd hwn yn blanhigyn sy'n ddigon cyffredin i mi gan fod hwdedd ohono fo yn tyfu'n yr ardal yma, ac yn arbennig yn Llanffinan."
Iddi hi yng Nghymru mae'n adnabyddus fel bedwen chwerw, cywarch gwyllt a cywarch dŵr neu Hemp Agrimony yn Saesneg.
Darganfu hefyd i'r rhywogaeth a welodd yn y Merica gael ei enwi ar ôl un o'r brodorion a'i defnyddiai i wella clefydau.
"Yn ôl be fedra i ddeall mae trwyth o Chwyn Joe-Pye wedi cael ei ddefnyddio gan sawl un o lwythau Indiaid America fel sudd affrodisaidd yn ogystal ac i drin y dwymyn, anhwylderau'r arenau, annwyd ac anhwylderau'r croen. Mae'n dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw, i wella yr annwyd a ffliw," meddai.
Ie, cyfrol sy'n gasgliad difyr a diddan o ysgrifau sy'n cysylltu sawl diddordeb o lên gwerin i lên-yddiaeth â byd natur gyda nifer o luniau lliw yn y canol - ond y rheini yn amrywio rhywfaint mewn ansawdd.
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|
|