BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cofio Eirug
Chwerthin wrth gofio
Tachwedd 2004
Roedd Clwb Rygbi Caernarfon yn llawn i dalu teyrnged i Eirug Wyn ac i gyhoeddi llyfr o atgofion gan rai oedd yn ei adnabod.

Lefi Gruffudd o'r Lolfa, cyhoeddwyr y gyfrol Cofio Eirug, agorodd y noson a dywedodd fod y llyfr yn tystio i boblogrwydd Eirug gan fod cymaint o bobl eisiau - ac wedi - cyfrannu iddi.

Ac yn ôl Emyr Llewelyn Gruffudd, golygydd y gyfrol a chyn bartner busnes i Eirug ac a'i dilynodd, roedd y gwaith wedi codi teimladau chwithig, chwithig, fod angen cyfrol o'r fath.

Clawr y llyfrRoedd drwy'r amser, meddai, wrth olygu'r llyfr yn meddwl beth fyddai Eirug wedi'i ddweud am y peth a'r peth.

Nid astudiaeth
Nid cofiant nac astudiaeth y gyfrol, meddai, ond syniad oedd wedi codi yn y dyddiau wedi colli Eirug, cyfnod o golli dagrau - drwy grio a chwerthin.

Dywedodd i'r gwaith casglu deunydd fod yn hawdd gan fod pawb eisiau cyfrannu.

Y bwriad oedd cael llyfr o rhyw 140 o dudalennau ond cafodd gryn drafferth i'w gadw i 200.

Yna daeth Manon Llwyd i'r llwyfan, merch a fu'n gweithio gydag Eirug yn ei siop yng Nghaernarfon a merch a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru un flwyddyn gyda chân yr ysgrifennodd Eirug eiriau iddi.

Canodd ddwy gân, Pwy sydd am rewi'r dagrau? (ei deyrnged i Bob yr Herald, gofalwr y swyddfa bapur newydd oedd y drws nesaf i'w siop) a Martin (geiriau a sgwennodd Eirug am Martin Luther King wedi iddo ymweld â Memphis).

'Ei thad'
Yna soniodd Dwynwen, ei ferch hynaf, am ei thad. Son am yr hwyl a gai gydag o a'r golled gawson nhw fel teulu.

Roedd yn ei gofio, meddai, â gwên fawr ar ei wyneb. A dyna sut oedd hi eisiau i bawb arall gofio amdano. Dyna fyddai yntau am i bawb i wneud, meddai.

Darllenodd John Ogwen bytiau o'r gwahanol gyfraniadau yn y llyfr. Dechreuodd gyda chyfraniad gan Rhiannon, merch arall Eirug, yn sôn fel roedd ei thad wedi rhoi ei thocyn i fynd i Faes yr Eisteddfod ac yn hytrach na phrynu un arall aeth ati i'w pherswadio mai hi oedd wedi ei anghofio yn y garafan ac yntau'n smalio ei dwrdio.

Cafodd fynd i fewn am ddim wrth gwrs.

Efo Thatcher
Soniodd fel y bu i'r teulu fynd i Lundain ac ymweld â Madam Tussauds ac yntau'n camu dros y rhaff rhwng y lle cerdded a delw o Margaret Thatcher a chyn i'r ceidwad ei lusgo oddi yno cafodd dynnu ei lun gyda'i fys i fyny ei thrwyn.

Soniodd fel y byddai ei thad yn dweud straeon wrthi a'i fod wedi dweud unwaith bod modryb iddi wedi cael ei lladd drwy i fagbibau ddisgyn o adeilad uchel a'i tharo'n ei phen!

Smyglo watsus
Aeth John Ogwen ymlaen i ddarllen rhan o atgofion Dafydd Owen yn sôn am Eirug a chriw o'r Groeslon yn smyglo mil o watsus Gwyddelig i Iwerddon wrth fynd i gêm rygbi ryngwladol.

Soniodd fel y bu yntau ac Eirug yn actio ar lwyfan gyda'i gilydd a chofiodd yn arbennig am y ddrama Salwn Sal.

Ar ddiwedd y ddrama roedd y ddwy ferch oedd yn rhannu'r llwyfan â nhw i roi clec i wydraid o wisgi yr un. Te oer oedd yn y gwydrau yn yr ymarferion ond roedd Eirug, ar y noson, wedi ei newid am wisgi go iawn.

Darllenwyd atgofion Terwyn Thomas a fu'n tynnu arwyddion gydag Eirug ac a rannodd ddoc llys a chell ag o.

Soniodd am yr hwyl a gafwyd gyda chamgyfieithu cyfieithydd y llys gydag 'illuminated sign' yn 'arwydd gyda goleudy arno'.

Cofion canwr
I gloi'r noson perfformiodd Tecwyn Ifan.
Roedd Tecs yn y coleg yng Nghaerfyrddin efo Eirug ac Eirug yn rheolwr Ac Eraill, y grŵp ddaeth â Tecs i amlygrwydd.

Rhwng y caneuon soniodd am Eirug a soniodd am y cwt oedd y tu ôl i Siop y Pentan, Caerfyrddin, ble cadwai Eirug ei baent a'i gelfi ar gyfer paentio a thynnu arwyddion.

Yno hefyd roedd Tecs wedi cyfansoddi rhai o'i ganeuon.

Sôn am Eirug, wrth gwrs, yr oedd pawb wedi i'r canu orffen ac er bod y straeon amdano i'w clywed uwch sŵn y gwydrau, roedd rhyw ddistawrwydd yn y clwb.
Roedd un llais ar goll.
Dafydd Meirion



Cofio Eirug. Golygydd, Emyr Llewelyn Gruffudd. Lolfa. £6.95.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy