BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Straeon o'r Strade
Blynyddoedd o lafur cariad

Adolygiad John Evans o Straeon o'r Strade gan Alun Wyn Bevan. Gomer. £9.99
Cyn bo hir bydd gwŷr rygbi'r Scarlets yn symud o Barc y Strade i faes newydd sbon yr ochor arall i dre'r Sosban, yn ardal Trostre.

Mae'n briodol felly fod llyfr newydd ei gyhoeddi i nodi hanes gorffennol y clwb a'r cannoedd o chwaraewyr sydd wedi ei gynrychioli ers y dyddiau cynnar.

Mae cyfrol Alun Wyn Bevan yn glamp o deyrnged i'r cyfan oll ac mae'n rhaid ei longyfarch yn enfawr am waith sy'n bleser i'w ddarllen.

Er nad yw'r awdur yn hanu o'r dre mae ei gariad at y fangre, sy'n gysegredig i lawer, yn amlwg o'r dechrau.

Un o fois y Gwter Fawr (Brynaman) yw Alun Wyn. Roedd ei arwyr cynnar e yn cynrychioli ei bentref yn wreiddiol gyda'r goreuon yn codi i safon uwch. Llanelli yw prif glwb gwŷr Cwmtawe ac yn naturiol bydd yr ifainc yn dilyn y sêr lleol.

A dyna a ddigwyddodd i Alun.

Mor anodd
Gwn o brofiad pa mor anodd yw ysgrifennu llyfr am ffeithiau a digwyddiadau o'r gorffennol. Llwyddodd yn rhyfeddol i amrywio'r cyflwyniadau o'r straeon lu.

Er enghraifft, beth meddech chi yw'r cysylltiad rhwng concwerwr Everest, Syr Edmund Hillary, a'r prop D.B.Llewelyn a chwaraeodd dros Gymru yn y saithdege?

Caiff y chwaraewr tenis ymfflamychol Ilie Nastase le teilwng a phriodol. Yr un modd mae'r stori am ei brofiad o weld yr anfarwol Everton Weeks yn bato pan oedd yr awdur yn blentyn yn berffaith addas i'r hanesyn.

Mae'n demtasiwn wastad i ddechre llyfr sy'n croniclo'r gorffennol gyda brawddeg debyg i, "Ffurfiwyd clwb Llanellli yn....." ond er i'r ffaith honno gael ei chynnwys daw i'r stori'n naturiol gyda thwf yr hanes.
(Ffurfiwyd y clwb ym 1875 gyda llaw).

Mae'n amlwg nad yw'r awdur wedi anghofio'i grefft fel athro ychwaith - ar bob tudalen cawn gyfres o bigion diddorol.

Glas yn gyntaf
Wn i ddim os taw wedi anghofio ydw i ond glas oedd cryse gwreiddiol y Sgarlets ac na ddaeth y coch i rym tan 1884.

Wyddech chi fod deunaw aelod i bob tîm yn 1876?

Ac er imi fynychu gêmau criced ar barc y Strade ym mhumdege'r ganrif ddiwethaf wyddwn i ddim taw ar y maes criced cyfochrog y bu'r gêm rygbi ryngwladol gyntaf ar y Strade.
Mae'r hanes o 1887 yn rhyfeddol.

Sêr y gorffennol
Un o'i gyfraniadau pennaf yw'r modd y llwyddodd i ddisgrifio sêr y gorffennol pell.

Daw Albert Jenkins yn fyw tra'n darllen ei ddisgrifiadau. Buaswn yn taeru fy mod i wedi bod yno pan sgoriodd Ernie Finch y cais anfarwol yn erbyn George Nepia yn nhymor 1924/25.
A brawd ei famgu druan, Jac Elwyn Evans, fu'n ddigon anffodus i fod yn aelod o dîm Cymru a gollodd 35-10 yn Inverleith , Caeredin yn, ym 1924!
Ei unig gêm!

O bryd i'w gilydd defnyddia'r Saesneg tra'n dyfynnu ac mae hynny'n hollol dderbyniol o gofio iaith yr adroddiadau ar y pryd.

Plwmp ac yn blaen
Mae'n llawdrwm ar ei hunan wrth gydnabod ei ffaeledd i ddyfarnu'r gêm rhwng Abertawe a Phontypŵl ym 1974.

Ac eto mae'n ddigon parod i ddweud ei farn yn blwmp ac yn blaen. Dylse Gareth Jenkins ac Allan Lewis fod wedi cael pwysicach gwaith gyda'r Undeb yn y naw degau.

Ac am y clwb ei hunan. Oes 'na berygl taw clwb 'bron a bod' fydd Llanelli yn y dyfodol? Yn ogystal yn ei farn e dylid enwi eisteddle i anrhydeddu Phil Bennett yn y stadiwm newydd.

Tybed faint o allu'r proffwyd sydd ganddo oherwydd mae'n talu teyrnged aruchel i Dwayne Peel a hynny cyn i'r mewnwr ddisgleirio yn erbyn De Affrica!

Hefyd medd ar y ddawn i adrodd yr hanes yn ffraeth ac yn gynnil.

Mae ei stori am y gohebydd rygbi Frank Keating yn angladd Carwyn James yn glasur!

Clawr y llyfr Yn ei bennod ar R.H.Williams dywed fod gan y clo disglair 'egni dihysbydd.' Gwir hynny am yr awdur ei hun hefyd gydag ôl gwaith cartref trylwyr a diflino yma.

Cyfaddefaf imi ei ddarllen mewn un eisteddiad ond fy mhenderfyniad personol oedd hynny. Mater bach yw darllen un bennod ar y tro a mwynhau'r lluniau a'r diwyg glân.

Diolcha i'w deulu am eu cefnogaeth dros y chwe mis ola.
Dim ond chwe mis?
Mae ôl blynyddoedd o lafur cariad ar y gyfrol werthfawr hon. Go lew ti, Alun Wyn.

Cysylltiadau Perthnasol
Noson gyhoeddi


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy