BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Wall Street Journal yn gwylltio Cymry America
Y Gymraeg yn erbyn y wal yn yr America


Mae sylwadau un o golofnwyr y Wall Street Journal am y cyfieithiad Cymraeg o Harry Potter wedi gwylltio'n gacwn ysgrifennydd cymdeithas Gymraeg yn Arizona.

Clawr y llyfrWrth sôn am gyfieithiadau i Ladin ac i Hen Roeg o Harry Potter and the Philosopher's Stone dywedodd Brian M Carney, golygydd dalen olygyddol y Wall Street Journal:
"Yn wir, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf cyfieithwyd yn dawel nifer o lyfrau Harry Potter (yn enwedig y cyntaf) i ugeiniau o ieithoedd; rhai ohonyn nhw yn rhai amlwg, eraill ohonynt, fel y fersiwn Gymraeg, yn wirioneddol od."

Un sydd wedi ymateb i'r sylw hwn ydi Mary Gilchrist, ysgrifenyddes Cymdeithas Gymraeg Arizona y mae ei theulu yn hanu o Lanerchymedd, Sir Fôn.

Mewn llythyr at y WSJ mae hi'n dweud iddi gael ei "syfrdanu" gan sylwadau Mr Carney.

"Beth sy'n bod mewn stori boblogaidd yn cael ei darllen mewn iaith fyw gan bobl ifainc sydd â'r Gymraeg yn iaith ganddyn nhw," meddai Mary Gilchrist sy'n dysgu Cymraeg.

"Efallai y byddai gennych ddiddordeb cael gwybod fod yr iaith yn fyw ac yn iach yn Arizona. .Mae yma ddosbarthiadau yn Phoenix, fy nghartref, a Tuscon. Yr ydw i yn un sydd wrth ei bodd cael y stori yn y Gymraeg.

Holi y mae Mr carney yn ei erthygl pa ddiben oedd yna mewn cyfieithu Potter i Ladin a Hen Roeg a dydi dweud fod hyn yn creu diddordeb newydd yn yr hen ieithoedd clasurol hyn ddim yn ddadl sydd i'w gweld yn ei argyhoeddi o.

Yn wir yr unig reswm sy'n gwneud unrhyw synnwyr iddo fo ydi sylw un o'r cyfieithwyr, "Fe wnes i o am yr arian."

"Mae hwnna'n ateb sy'n gwneud synnwyr yn unrhyw iaith," meddai Mr Carney.

Gan gynnwys y Gymraeg mae'n debyg!

Cysylltiadau Perthnasol
Cynghrair Gymraeg Arizona

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy