BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Nos yn dal yn fy Ngwallt
Adolygiad o: Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt gan Mari George. Gomer. £5.99.



Bu'r gyfrol hon yn cael ei gwthio fel yr un sy'n cynnwys y gerdd gyntaf erioed yn y Gymraeg yn sôn am "bynciau dyrys fel tyndra'r misglwyf - neu PMT."

Nid yn unig mae sôn am hynny mewn taflen a baratowyd gan y cyhoeddwyr ond mae'r awdur yn tynnu sylw at y peth mewn rhagair i'r gyfrol.

Clawr y llyfr"Cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu gan amryw o bethau, gan gynnwys profiadau carwriaethol, teulu, colled, bywyd y ddinas, bod yn Gymraes a bod yn ferch, fel y gwelir yn y gerdd 'PMT' - y gerdd gyntaf i ddod a thyndra'r misglwyf i fyd barddoniaeth Gymraeg."

Mae'n beth digon peryg sôn eich bod 'y cyntaf' i wneud rhywbeth. Gallwch fod yn weddol sicr bod yna rhyw ddiawl yn rhywle sy'n gwybod yn wahanol. Nid oes dim byd newydd dan yr haul!

Yn yr achos hwn, nid y fi fydd y 'diawl' hwnnw.

Ond, wrth gwrs, dydi'r ffaith ichi fod y cyntaf i wneud rhywbeth ddim o anghenraid gyfystyr a dweud i hynny fod yn rhywbeth gwerth ei wneud!

Ac er yn gerdd ddigon difyr nid yw PMT yn un o gerddi gorau'r gyfrol hon nac yn rhoi rhyw ddirnadaeth neu ddealltwriaeth newydd o'r cyflwr hwn sy'n gwneud merched yn bethau fel ydyn nhw.

Ond efallai mai'r rheswm yr ydw i'n meddwl hynny yw:
Dyw dynion jyst ddim yn deall

Ond be sy na i'w ddeall?

Deall neu beidio rwy'n rhyw amau mai cyfrol sy'n mynd i apelio fwy at ferched - ifanc - yw un gyntaf Mari George.

Ond wedi dweud hynny, mae hi hefyd yn ddrws ac yn welediad i fywyd a all fod yn rhywfaint o ddirgelwch i eraill ohonom.

At ei gilydd, mae'r cerddi yn gryno ac yn uniongyrchol ar wahân i gerdd hirach, tair tudalen, Caerdydd lle mae'r bardd yn cwyno (fymryn yn angramadegol):
Gwnaed ein byd yn fach
ond pellach o'i gilydd mae pobl.

A'r bobl hynny yn:
Pasio heb air
fel cychod ar ddŵr
neu wylanod . . .
mewn bae a grwyd gan ddyn.

Mae'r cerddi yn pefrio o ddelweddau a throadau ymadrodd trawiadol y mae'n werth cyfeirio atyn nhw:

Dau gariad yn credu "fod ein bywydau nawr yn eu lle/ fel Rubik's cube wedi'i orffen.

Rhannu profiad "fel rhannu pick'n mix ar iard ysgol./Ffrindie tan fo'r bag yn wag, a dieithrwch nos o'n cwmpas eto" mewn telyneg hyfryd am rannu gwefr y machlud gyda'r gyrrwr Sbaenaidd ar daith bws o Mulege i Guerro Negro.

Mae agoriad gafaelgar tu hwnt i Cam am fenyw yn begera ym Marcelona:
Wrth imi ddisgwyl trên yn Barcelona
daw hi ataf i ymbil arian
ei chareiau'n rhydd a'r gwter yn ei llais

Trawiadol hefyd yw'r darlun yn y cwpled: "Ond neithiwr agorodd botel
a daeth sŵn chwerthin ohoni."

A dyma bennill agoriadol hudolus Disgwyl am Kosovo 1999:
"Daw ei hwyneb coll i'n sgrins
yn aeaf o dlawd"
a'r rhyfel yn ei llygaid

Ac oes mae yma themâu a phrofiadau bydeang ymhlith y 36 o gerddi sydd yn adlewyrchu ymateb person yng nghyfnod ei hugeiniau i'w chynefin yn lleol ac yn sgil profiadau rhyngwladol dwys.

"Mae nifer o'r cerddi," meddai, "yn deillio o'r profiad rhyfeddol a gefais yn ystod 2004 yn gweithio am bedwar mis gyda phlant y stryd ym Mecsico, profiad herfeiddiol a chyffrous, ond profiad ysgytwol hefyd" - a'r ysgytio hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn ei cherddi a'i gwelediad o'r byd.

Ond er bod amrywiaeth ymhlith testunau'r cerddi dywed Mari George fod un islais cyson iddyn nhw:
"Mae siom bywyd a cholled yn gefndirol i'r dweud," meddai.

Ac mae'n arwyddocaol iddi ddewis yn deitl i'r gyfrol linell o Briw, cerdd sy'n "defnyddio eira fel delwedd sy'n cynrychioli harddwch profiadau naturiol ond sydd ar yr un pryd yn cuddio gwir friwiau bywyd."

Yr adolygiad gan Glyn Evans.

Holi Mari George

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Mari George


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy