BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Band yr Hendra, Wmpa-Wmpa! gan Geraint Jones
Adolygiad gan Dafydd Meirion o Band yr Hendra, Wmpa-Wmpa! gan Geraint Jones. Gwasg Carreg Gwalch, £5.50


Ddarllenais i erioed lyfr o'r blaen â band pres yn gefndir iddo.

Dydw i'n dallt dim am fandiau pres chwaith ond wnaeth hynny fenu dim ar fy mwynhad.

Ond yn amlwg mae gan yr awdur Geraint Jones, arweinydd Band Pres Trefor, wybodaeth eang am fandiau pres ac mae'n britho'r straeon gydag enwau darnau fel Marwolaeth Tybalt, Death or Glory a Bellinzona a thermau fel staccato a glissando.

Clawr y llyfrYdy o wedi tynnu ar ei brofiad o arwain y band hwn wrth lunio'r chwe stori fer ddoniol yma? Arweinydd Seindorf Excelsior Temperance yr Hendre (pentref dychmygol ar odre'r Eifl) yw Morlais Mortimer Humphreys ac yn ôl sawl disgrifiad yn y llyfr (byddai un neu ddwy o weithiau'n ddigon) hwn yw'r band salaf yn yr ardal, yng Nghymru os nad y byd.
Dyna yw sail y straeon.

Cic i sawl sefydliad
Yn ôl yr awdur, nid "pentref cysglyd a marwaidd" ydy'r Hendref. "Mae yno gymdeithasau lu ar gyfer pob oedran a phob diddordeb, pedwar addoldy, porthladd hwylus a hardd ... heb sôn am sgwâr pentref bywiog ei gampau rhywiol, cyffuriol a fandaleiddiol..."!

Mae Geraint Jones yn achub ar bob cyfle i roi cic i sawl sefydliad Cymreig. Y Bwrdd Welcome to Wales a'r Urdd - "... cyn i'r Urdd gael troedigaeth gymdeithasol trwy fudo o Geredigion Gymraeg werinol a thlawd i ganol cyfoeth, crandrwydd a Seisnigrwydd dinas Caerdydd".

Caiff The Party of Wales ei ychwanegu at bob cyfeiriad at Blaid Cymru a "y blaid fwyaf teyrngar i Balas Buckingham a nhw oedd â phrofiad canrif a rhagor o drefnu myrdd o bartïon-stryd taeogaidd yng nghymoedd y de a dyffrynnodd diwydiannol y gogledd" yw'r Blaid Lafur.

Caiff pwyllgorau cynllunio'r awdurdodau lleol glec, "... mwy buddiol o lawer ... oedd sicrhau torri ('ymestyn' mewn iaith gyfoes) rheolau a pholisïau cynllunio i blesio perthnasau a ffrindiau ac ambell i deulu niferus allasai fod yn allweddol adeg etholiad."

Caiff yr arferiad o wylio teledu'n ormodol hefyd ei sylw, "... oherwydd eu pwyslais Cymreig i addysgu eu plant, [maen nhw] wedi dymchwel y pared rhwng y parlwr a'r gegin er cael ystafell fwy i wylio'u teledu ..."

Pan sonnir nad oes twristiaid yn yr Hendre, dywed "fod un Aber-soch yn ddigon" a chaiff iaith Almaenes â Saesneg o safon ei disgrifio fel un "coethach na'r eiddo pobl Birmingham".

Hawdd eu darllen
Mae'r straeon yn hawdd iawn eu darllen; iaith goeth Geraint Jones mwy nag iaith naturiol yr Hendre neu Drefor am wn i.

Mae yma ddywediadau bachog a doniol iawn fel:
"rhoi deng ewin ar waith",
"haws stwffio mwg i fyny tin cath efo fforc",
"tynn fel tin cranc",
"cyfaill blaidd, bugail diog"
a "saffa'i groen, croen cachgi".

Mae'n sôn am rai o aelodau'r band wedi mynychu y "coleg gwymon a'r heli" yn hytrach nac unrhyw brifysgol.

A cheir enwau fel Colin Angau a Dic Dan Dean ar rai o'r cymeriadau dychmygol a John O'Cork (Prif Weithredwr yr Urdd) a'r cynghorydd lleol gwladgarol Gwynus Williams ar rai go-iawn.

Mae'r band hefyd yn chwarae ar orymdaith Raxions Dynamite!

Môr, cychod a physgota
Nid yn unig mae Geraint Jones yn gwybod dipyn go-lew am fandiau ond, fel hogyn o Drefor, yn naturiol mae ganddo hefyd gryn adnabyddiaeth o'r môr, cychod a physgota.

Dyma i chi ddisgrifiad o gwch Morlais:
"Cwch Aberdaron oedd cwch Morlais, cwch a welodd ddyddiau gwell ers ei adeiladu ym Mhorth Meudwy ... cwch estyllog, henffasiwn hefo spilyn sgriw, un pres, dan y sgotal ôl."

"Haliodd hogia'r Hendref eu cychod i'w gaeafu mewn gweirglodd a gadlas a garej. Glanhawyd y peiriannau a fflysiwyd yr heli cancrus ymaith â dwr croyw. Cadwyd y gêr pysgota tan ddechrau'r gwanwyn.

"Bu'r merched hwythau'n brysur yn ôl eu harfer yn piclo'r mecryll bychain ac yn llnau a rhewi mecryll-mawr-diwedd tymor, 'mecryll Penrhiwia' fel y'u gelwid. Cafodd sliwod disgwylgar Pont Tyn'gors eu gwledd fawr flynyddol o berfeddi a phennau mecryll."

Ac "...i wneud pethau'n waeth roedd brisyn cryf wedi codi o'r gogledd-ddwyrain ac roedd hi hefyd yn treio'n gyflym a'r môr yn llifo'n gryf er mai teitia marddwr oedd 'na'r wythnos honno."

Ennill gwobr
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, daeth dwy o'r straeon - y ddwy gyntaf - i'r brig yng nghystadleuaeth 'Cyfrol o storiau doniol, cyfoes i oedolion' gan y beirniad Harri Parri.

Ac, yn wir, gellid dweud fod y straeon hyn mor debyg i rai Harri Parri ei hun y gallai glywed John Ogwen yn eu darllen ar Radio Cymru!

Ond oni ddylai'r cwmnïau teledu eu hystyried fel sail i sgript? Mae yma gymeriadau cryfion a sefyllfaoedd doniol ac alla i ddim disgwyl i weld merched Band Wmpa Wmpa'r Almaen yn "eu sgerti cwta, tynion, yn fawr mwy na hancesi poced ... a'u cluniau noethion" yn llenwi sgrîn S4C.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy