BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cysgod yn y Coed
Cyhoeddi llyfr dysgwraig yn y Steddfod - Cysgod yn y Coed gan Lois Arnold £4.99. Gomer, 80tt.


Bydd merch sydd wedi'i henwebu ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2004 yn cyhoeddi llyfr pwrpasol o storïau i ddysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd.

Ganwyd Lois Arnold yn Walton-on-Thames yn Surrey, ond mae'n byw yn Y Fenni ers chwe blynedd.

Ar ôl symud i fyw yng Nghymru, roedd Lois yn awyddus iawn i ddysgu Cymraeg.Clawr y llyfr
"Ro'n i'n teimlo ei bod hi'n beth hollol naturiol - a phwysig - i fynd ati i ddysgu'r iaith. Ro'n i eisiau teimlo fy mod i'n perthyn yma a fy mod i'n gallu cymryd rhan lawn yn y gymuned. Ac ro'n i'n awyddus hefyd i ddeall a gwerthfawrogi hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru'n llawn," meddai.

Aeth i ddosbarthiadau nos yng Ngholeg Gwent yn Y Fenni a dywed i ddarllen nofelau a storïau byrion fod o help mawr iddi wrth ddysgu Cymraeg.

Enillodd Lois gystadleuaeth creu deunyddiau darllen i ddysgwyr yn Eisteddfod Meifod y llynedd a ffrwyth hynny yw ei chyfrol Cysgod yn y Coed.

Casgliad yw o storïau ysgafn a diddorol i ddysgwyr sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn neu ddwy.

Mae'r storïau i gyd yn sôn am ddigwyddiadau bob dydd a allai fod yn rhan o brofiadau llawer ohonon ni, gan gynnwys gwyliau glan môr, mynd i'r Eisteddfod, a breuddwydio am ennill y Loteri!

Bydd lansiad swyddogol ym Mhabell y Dysgwyr ar faes Casnewydd ddydd Mercher am 2.30 pryd bydd yr awdur yn sôn am ei phrofiadau fel dysgwraig ac yn darllen dyfyniadau o rai o'r storïau.

Ers dwy flynedd bu Lois yn diwtor Cymraeg rhan amser i oedolion yng Ngholeg Gwent.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Lois Arnold


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy