BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cerddi Sir Gâr
Adolygiad Gwyn Griffiths o. Cerddi Sir Gâr. Golygydd: Bethan Mair. Cerddi Fan Hyn. Gwasg Gomer. £6.95.


Fe ddwedodd James Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, rywbeth i'r perwyl fod dyn Shir Gâr ag un droed ar y domen dail a'r llall ar domen y pwll glo - mandrel yn un llaw a phicwarch yn y llall.

Sir y gweithie a sir y ffermydd.

Clawr y llyfrNid dyna'r unig ddeuoliaeth sy'n perthyn iddi.
Mae'n sir i gynhesu ati - a gwylltio wrthi.
Sir Gwynfor - a Doctor Alan.
Sir, yn anad yr un a sicrhaodd Gynulliad inni.
Y Gymreiciaf o'n siroedd, yn ôl Bethan Mair yn ei Rhagarweiniad i'r gyfrol Cerddi Sir Gâr, y fwyaf amrywiol a'r fwyaf anodd i'w diffinio.
Cymdogaeth glòs y seindorf, gwerin falch
Cae rygbi ac emynwyr mawr Shir Gâr
- fel y dywed Arwel John yn ei soned hyfryd Drwy'r Ffenest Hon.

Sigl esmwyth y soned
Mae sigl esmwyth y soned yn gweddu i dawelwch gwledig y sir. Wn i ddim a aeth y soned yn anffasiynol ond mae nifer dda o sonedau yn y flodeugerdd hon a hyfryd cael darllen eto ambell un fel Sir Gaerfyrddin Gwenallt.

Ni wyddom beth yw'r ias a gerdd drwy'r cnawd
Wrth groesi'r ffin mewn cerbyd neu mewn trên:
Bydd gweld dy bridd fel gweled wyneb brawd,
A'th wair a'th wenith fel perthnasau hen ...

A soned feddwol D. H. Culpitt i Hen Efail Thomas Lewis, Talyllychau gyda barddoniaeth yn yr enw "Talyllychau" ei hun. Fel ag sydd yn yr enwau Llanglydwen, Henllan Amgoed, Pant-y-caws. Lllinell gyntaf soned fendigedig Margaret Bowen Rees, Trannoeth Is-etholiad Caerfyrddin.

Cariad dwfn
Ai am fod pobol y gweithie yn medru gwerthfawrogi'n llawnach lonyddwch tyner y wlad fod y darllenydd yn synhwyro rhyw gariad dwfn yng ngweithiau beirdd y sir?

Fel y canodd Bryan Martin Davies:
"... gorffwysem wrth y chwarel galch
gan adael i'r gwyrddni ffein gysuro'n llygaid."

Os canodd D. H. Culpitt i hen efail yr emynydd yn Nhalyllychau, fe ganodd, hefyd, i lowyr Cefneithin, a hynny yn nhafodiaith Cwm Gwendraeth.

Mae sôn am hen frwydrau, wedi'r cwbl bu Beca a'i merched yma a hon yw sir Gwenllian. Cofiwn am frwydr Llangyndeyrn a'r gwrthwynebiad i'r Comisiwn Coedwigoedd.

Fedrwch chi ddim meddwl am Shir Gâr heb feddwl am Lanelli, nac am Lanelli heb Barc y Strade ac arwyr y cae rygbi. Hoffais yn arbennig gywydd Ceri Wyn Jones i Phil Bennet:
Trydanai fêr y teras,
a phigo bwlch â'i ffug-bas
cyn mentro dawnsio rhwng dau
yn Houdini o denau.

Ac wedyn:
Yma fe welai ymyl
y môr coch rhwng muriau cul:
aroglai hwn ffordd drwy'r glaw,
cyrliai rhwng llafnau'r curlaw.

Ambell gerdd ysgytwol, wedyn, fel honno I George yn Ysbyty Meddwl Dewi Sant, Caerfyrddin, gan Lona Llywelyn Davies.

Ond yr hyn a erys yw melystra atgofus y gyfrol a chyfraniadau'r shirgarwyr anobeithiol, fel y buasai D. J. Williams yn ddweud. Iddyn nhw, yn arbennig, y bo'r diolch.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy