BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O goron i botel
Mae un o lenorion blaenllaw Cymru wedi bod yn trafod ei daith hunllefus "o goron steddfod i gaethiwed alcohol."




Cliciwch i glywed y sgwrs

Bu'r bardd a'r dramodydd, Aled Jones Williams, yn sôn am ei frwydr ddirdynnol yn erbyn alcohol wrth John Roberts ar y rhaglen, Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru, Mehefin 6, 2004.

Yr oedd hwn yn gyflwr a wynebodd o'r blaen, 16 mlynedd ynghynt.

Disgrifiodd sut y bu iddo droi at y botel i chwilio am gysur yn dilyn y beirniadu a fu o'r gerdd a enillodd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi.

Cerdd ddadleuol
Enillodd y Goron gyda cherdd ddadleuol a oedd ym marn y tri beirniaid "filltiroedd ar y blaen" i unrhyw beth arall yn y gystadleuaeth.

Ond wedi i'r gerdd gael ei chyhoeddi daeth yn destun beirniadaeth lem o rai cyfeiriadau.

'Crap' oedd y disgrifiad ohoni gan un bardd amlwg a ddaeth yn brifardd ei hun ers hynny.

Dywedodd Aled Jones Williams iddo ei chael yn anodd dygymod â'r beirniadu yn dilyn y gorfoledd cyntaf o ennill.

"Yr oedd yn brofiad arbennig ar y pryd ac yn rhywbeth oeddwn i isio'i wneud erioed . . . ennill rhywbeth mawr yn y Steddfod," meddai wrth John Roberts.

"Ond wedi dweud hynny, roedd ochr arall o fod yn difaru fy mod i wedi trio . . . yr ochr sy'n gwneud i bobl fel fi fy hun deimlo nad ydan ni'n da i ddim mewn gwirionedd."

Y deg a'r cant
Ychwanegwyd at yr ansicrwydd personol hwnnw gan y beirniadu.

"Os oes yna gant o bobl yn dweud fod hwn yn dda iawn a bod deg o bobol yn dweud nad ydi hwn ddim gwerth - am y deg yna yr af i nid am y cant ac felly mi es i yn or sensitif . . . a stiwio yn y peth," meddai gan ychwanegu na allai dderbyn fod gwahanol farnau yn bosib.

Wedi brwydro o'r blaen yn erbyn alcoholiaeth un mlynedd ar bymtheg ynghynt dywedodd y ficer o Borthmadog ei fod "yn ôl ar y botel" erbyn y mis Rhagfyr ar ôl yr Eisteddfod.

Siaradodd yn agored ac onest am ei gyflwr.

"Er enghraifft pan oeddwn i'n gorfod gwneud rhywbeth yn gyhoeddus; am ddim rheswm o gwbl roedd fel taswn i'n colli hyder," meddai gan gyfaddef iddo ddechrau cymryd vallium i'w gryfhau ei hun a hynny yn y diwedd yn ei arwain at "godi diod" a "llyncu diod".

"Mae o'n rhywbeth sy'n gyffredin i rai sy'n alcoholiaid - fod pobl yn ei chael yn anodd i ymdopi â llwyddiant - nad oes ganddo chi hawl (i lwyddiant)," meddai.

"Mae o'n brofiad real iawn - ofn ydi o nad yda chi ddim gwerth."

Yn ystod y cyfnod hwn byddai'n cuddio'i ddibyniaeth - a'r poteli - gan hyd yn oed dwyllo ei hun nad oedd ganddo broblem.
Mynd yn flêr
Dyma'r cyfnod y dechreuodd ei fywyd chwalu. Neu fynd yn flêr a defnyddio ei air ef.

"Roeddwn i'n edrych yn flêr . . . ac mae eich meddyliau chi yn mynd yn flêr a'ch emosiynau chi ym mhob man. Mae pob dim yn flêr. Mae'r dyn yn flerwch mewn gwirionedd ac hefyd yn dadfeilio," meddai.

O'i adael iddo'i hun dywedodd y byddai "wedi cario mlaen i gabalatsio" ond i'w wraig a chyfeillion ei wthio i geisio help gan gofio iddo fod yn alcoholig a chael triniaeth un mlynedd ar bymtheg ynghynt. Yn groes i'w ddymuniad ef datgelodd ei wraig ei fod yn dioddef eto.

"Hi oedd yn iawn oherwydd y peth olaf ydych chi'n wneud efo alcoholig neu rywun sy'n dibynnu ar unrhyw gyffur ydi gwneud bywyd yn hawdd iddyn nhw," meddai.

A fu bywyd ddim yn hawdd gyda mwy nag un cyfnod o 'wella' a llithro yn ôl gan gynnwys dau gyfnod dirdynnol mewn cymuned i alcoholiaid yn yr Alban.

Disgrifiodd ei hun mewn gwewyr eisiau diod:

"Mynd ar lan môr Morfa Bychan efo'r wraig a'r plant a'r cwbwl oedd ar fy meddwl i oedd; Fedri di ddim mynd ddim pellach, rhaid iti gael rhywfaint o ddiod, rhaid iti gael rhywbeth."

Dywedodd mai rhybudd gan ei wraig y byddai hi yn mynd ac "y byddai'r plant yn mynd" oedd y trobwynt a ddaeth ag ef at ei goed.

Cysylltiadau Perthnasol
Coroni yn Nhyddewi
Prifardd nad yw'n un o'r gang
Cerdd y Goron

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy