BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dim rhagor o Lol
Ni fydd cylchgrawn sydd wedi bod yn boen ac yn bleser i filoedd o Gymry dros y deugain mlynedd diwethaf ar gael yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd eleni.
Ni fydd cylchgrawn sydd wedi bod yn boen ac yn bleser i filoedd o Gymry dros y deugain mlynedd diwethaf ar gael yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd eleni.

Dywedodd Y Lolfa yr wythnos hon na fydd Lol, y cylchgrawn a gychwynnwyd gan Robat Gruffudd yn 1965, yn cael ei gyhoeddi byth eto.

Yn hytrach bydd cylchgrawn newydd wedi ei anelu at bobl ifanc yn gweld golau dydd, Dim Lol.

Yr oedd Lol yn gylchgrawn ar ei ben ei hun a thros y blynyddoedd bu'n destun poen a phleser i filoedd o Gymry.

Yn boen i'r rhai hynny oedd yn cael eu gwawdio a'u difrïo ynddo ac y byddai'n datgelu cyfrinachau amdanyn nhw ond yn bleser pur i'r rhai hynny oedd yn mwynhau gweld mawrion y genedl dan yr ordd .

Blynyddoedd cythryblus
Bu deugain mlynedd Lol yn rhai cythryblus i'w rhyfeddu ers ei gyhoeddi gyntaf yn Eisteddfod Maldwyn, 1965.

Nid oedd dim yn sanctaidd iddo na neb yn rhy uchel i'w ddarostwng. Mwy nag unwaith arweiniodd hynny at drafferthion cyfreithiol.

Y rhifyn a dramgwyddodd Cynan Yn y trydydd rhifyn ar faes Prifwyl Y Bala yn 1969 bu'n rhaid dileu'r geiriau "Bu Cynan yma" - ger llun o ferch noeth gyda'r gair "Sensor" dros ei bronnau - wedi i'r bardd a'r archdderwydd gwyno eu bod yn enllibus. O ganlyniad bu mwy o fynd ar y rhifyn hwnnw na'r un cyn hynny!

Yr achos mwyaf difrifol oedd un a gostiodd filoedd o bunnau i Eirug Wyn pan oedd ef yn olygydd.

Nodwedd bwysig o'r Loliau cynnar oedd ei feiddgarwch yn cyhoeddi lluniau o ferched lled-noeth a hynny ar adeg pan nad oeddynt yn rhan o arlwy beunyddiol y tabloids fel maent heddiw. Yn wir, o gymharu a'r hyn sydd i'w weld mewn papurau teuluolheddiw roedd merched Lol yn eithaf diniwed mewn gwirionedd.

Ymosod ar yr Arwisgo, 1969Yn boblogaidd hefyd yr oedd cartwnau miniog a brathog Elwyn Jones a'i frawd Tegwyn yn gwawdio ffigurau cyhoeddus Cymreig a gwleidyddion.

Byddai'n cael ei ddarllen, hyd y diwedd, gan rai o bob oed a dywedir fod canfod nad oeddech "yn Lol" yn peri cymysgedd o ryddhad a siom i bwysigion y genedl!

Yr oedd ganddo ei ddihirod a'i arwyr wrth gwrs gydag Eirwyn Pontshan ac Undeb y Tancwyr ymhlith yr arwyr mwyaf ond bu gwleidyddion Cymraeg blaenllaw fel Cledwyn Hughes ac Elystan Morgan dan lach y cylchgrawn yn gyson.

Cafodd ei ddisgrifio fel y Private Eye Cymraeg ond yr oedd Lol yn unigryw ac yn gwbl Gymreig ei hiwmor a'iosgo.

Dychanol a gwleidyddol
Wrth gyhoeddi ei dranc dywedodd Y Lolfa mai'r bwriad gwreiddiol gyda Lol a sefydlwyd gan Robat Gruffudd a Penri Jones oedd creu "cylchgrawn ysgafn, poblogaidd i'r ifanc, gyda chynnwys pryfoclyd a hwyliog".

Dychan gwleidyddol"Ers hynny, newidiodd y cylchgrawn i fod yn ddychanol a gwleidyddol a chafodd sawl golygydd, yn cynnwys y diweddar Eirug Wyn a fu'n olygydd am bum mlynedd, a Darren Edwards a symudodd y cylchgrawn i gyfeiriadau gwahanol gyda chyhoeddwyr Pendinas," meddai Lefi Gruffudd o'r Lolfa mewn datganiad yr wythnos hon.

Er cymaint y siom fod Lol yn dod i ben, rydym yn hynod o falch fod cylchgrawn newydd, ffresh i gymryd ei le, a fydd, mewn sawl ffordd yn adlewyrchu dechreuadau Lol yn y chwedegau, gydag eitemau ysgafn i apelio i'r ifanc," meddai.

Bydd Dim Lol yn ymddangos ar faes yr Eisteddfod yng Nghasnewydd ond yn wahanol i'w ragflaenydd bydd yn cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn.

Y golygydd fydd Catrin Dafydd a fu'n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'n hen bryd ein bod ni'n cael cylchgrawn sy'n adlewyrchu yr hyn y mae'r ifanc yn ei deimlo am Gymru a'r byd, meddai.

Cyfeiriad y cylchgrawn newydd ydi; [email protected]


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy