BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dal Dy Dir! gan Iola Jôns
Adolygiad Caron Edwards o Dal Dy Dir! gan Iola Jôns. Gwasg Gomer. £7.99.
Mentrus o fewn ffiniau diogel!

Hon yw nofel gyntaf Iola Jôns i oedolion. Cyhoeddodd gyfrol i blant, Go Fflamia yn 1997 ac roeddwn yn edrych ymlaen at weld os y byddai'n gwneud y naid i fyd oedolion yn llwyddiannus.Clawr y llyfr

A'r hyn a ganfyddais?
O ddarllen y nofel hon, dim problem, prin ei bod yn weddus i unrhyw un dan ddeunaw!

Tair athrawes
Dilyn hynt a helynt tair athrawes ifanc wna'r gyfrol, Mona, o Sir Fôn, Glenys o Bontyberem a Trudi'r ddysgwraig o Ddolgellau.

Mae'r cyflwyniad cyntaf a gawn iddynt fel a ganlyn:
"Wel, pwy oedd e, 'ten?" gofynnodd Glenys.
"Pwy oedd pwy?" gofynnodd Mona.
"Hwnna nath gnoi gwddw ti," meddai Trudi.
"Ryw John neu'i gilydd."
"Big John ife!" chwarddodd Glenys.
"Neu Long John falla," ychwanegodd Trudi gan chwerthin.

Byd y ferch sengl
Croeso i fyd y ferch sengl neu, yn yr achos hwn, y tair merch sengl, wrth iddynt farcio gwaith plant ysgol, meddwi a charu.

Hawdd y gallai'r cymeriadau asio'n un trwy hyn ond un o arfau gorau awdur yw tafodiaith ac mae cael y tair yn dod o gefndiroedd daearyddol cwbl wahanol yn eu gwahaniaethu o'r gair cyntaf.

Golyga hyn hefyd, fod yr awdures yn cael bod fymryn yn fwy hamddenol wrth ddarlunio nodweddion eraill o'u personoliaethau, a braf yw gweld bob un yn blaguro yn ei ffordd ei hun fel yr â'r nofel rhagddi.

Un arall o'i chryfderau yw'r modd y mae'n cyd-blethu ystod o emosiynau; y llawen a'r lleddf, y llwyd a'r lliwgar, ac yn llwyddo i wneud hynny'n gynnil a ffraeth.

Mymryn yn herciog
Un o'r gwendidau o'm safbwynt i yw fod y ddeialog ar brydiau'n teimlo fymryn yn herciog ac ambell i reg yma ac acw heb bwrpas ac heb fod yn ychwanegu na chynnig dim i rediad y stori.

Dro arall, mae'r stori'n darllen braidd yn fformiwlaig, fel petai'n dilyn riset y rhelyw lyfrau Saesneg dan faner chick lit.

Ar un olwg, ymddengys yn feiddgar, tra ar y llaw arall yr ymddengys y beiddgarwch hwnnw'n fymryn o ystrydeb.

Nofel fentrus o fewn ffiniau diogel ydy Dal Dy Dir! Nofel i'w mwynhau heb orfod myfyrio rhyw lawer drosti. Cyfrol gampus i'w chario'n y cês ar wyliau.

Am yr awdur:
Merch fferm a ddaw'n wreiddiol o Landdoged ger Llanrwst yw Iola Jôns ond yn awr yn byw yn Aberhosan ger Machynlleth.

Mae'n fam i bedwar o blant ac yn gyfarwyddwr cyfathrebu gydag Urdd Gobaith Cymru.

Cliciwch i ddweud beth ydych chi'n feddwl


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy