BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dianc
Cyhoeddi Dianc gan Jac Jones.
Gwasg Gomer. £5.99

Stori arswyd sy'n cydio helyntion heddiw gyda digwyddiad bron i fil o flynyddoedd yn ôl ydi'r ail lyfr y mae'r arlunydd Jac Jones wedi'i sgrifennu.

Daeth Jac Jones o Langefni Sir Fôn i amlygrwydd gyntaf fel un o'r goreuon o arlunwyr llyfrau plant Cymru ac mae'n un o enillwyr Gwobr Tir na-Nog.

Clawr y llyfrOnd er bod ei enw wrth nifer fawr o lyfrau dim ond unwaith o'r blaen y bu'n awdur yn ogystal ag arlunydd llyfr.

Yn ei ail stori, sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Gomer, mae elfennau dirgel o'n gorffennol tywyll yn ymyrryd â bywyd presennol teulu sy'n ffermio ar ynys Môn.

Mae'r stori yn agor gyda seremoni gladdu frawychus naw cant o flynyddoedd yn ôl.

Canolbwynt y stori ydi coedlan wedi ei hamgylchynu gan wal gerrig gyda'r cwpled darogan:
Corlan arw sy' Ngoed Clebran,
Ond gwae os bydd y wal yn gwegian.

"Mae gen i deimlad ym mêr fy esgyrn na ddylai neb ymyrryd â Choed Clebran," meddai Nain wrth Sara a Gwion y plant.

Wrth gwrs mae bwlch yn cael ei dorri yn y wal ar ddamwain gan dractor y fferm a phethau rhyfedd iawn yn digwydd wedyn.

Ar ben hynny, mae Sara yn dod o hyd i garreg ryfedd gyda llun dyn cyntefig arni a hynny a'r bwlch yn rhoi cyfle i rywun neu rywbeth ddianc o'r goedlan.

"Cyn toriad gwawr, sgrialai siapiau llawn cysgodion yn ôl drwy'r bwlch yn y wal ar ben y bryn, a drygioni'n serennu lond eu llygaid cochion. Heblaw am sgrech llwynog yn y pellter, yr unig sŵn oedd clebran cegau gwlyb."

"Ymyrraeth ein gorffennol tywyll â'r presennol sy'n anesmwytho'r darllenydd gan wneud Dianc yn stori arbennig iawn," meddai'r cyhoeddwyr.

Does yna ddim i ddweud ar gyfer pa oed mae'r llyfr ond mae'r iaith yn awgrymu rhywun gyda gafael go dda ar ddarllen er y gellid tybio oddi wrth y diwyg y byddai'n addas ar gyfer plant iau - ond byddai'r eirfa a'r gystrawen yn rhy anodd i rai rhy ifanc.

Ond mae'n braf gweld iaith a ffurfiau ychydig anos na'r arfer yn cael eu cynnig i blant yn ogystal â chyffelybiaethau ac idiomau graenus hefyd.

Ond i'w plith llithrodd ambell i air anghartrefol:
Yn un lle mae'r gair "stompio" yn cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun dawns ac yn amlwg i fod yn Gymreigiad o "stamp" yn Saesneg.

Mae yna gyfeirio hefyd at "clympiau" o gnu defaid ac am blant yn "bowndio".

Ni fydd yn syndod i neb fod y lluniau heb eu hail er y byddai ambell un wedi bod ar ei ennill o'i gyhoeddi mewn mwy o faint er mwyn creu gwell argraff; a'r farn honno yn cael ei hatgyfnerthu gan y lluniau dalen lawn sydd yn y llyfr.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Jac Jones

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy