|  |
 |
 |
 |
 |
 |
|
 |
Mi Gana'i Gân. Adolygiad Ioan mai Evans o Mi Gana'i Gân. Cerddi a Baledi Gruffudd Parry wedi eu casglu er cof amdano gan gyfeillion. Gwasg Carreg Gwalch. £5.
Cyfrol arbennig gan lenor tra arbennig. Cofiaf Gruffudd Parry, gyntaf, yn croesi'r Maes ym Mhwllheli ar nosau Gwener ac yn diflannu am adref yn y Moto Coch oedd yn rhedeg i Gaernarfon.
Mewn dim o amser, clywais ei fod wedi ymsefydlu yn athro yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Yn bur fuan wedyn daeth yn enw poblogaidd yn hanes perfformiadau plant yr ysgol.
Ysgwn i ai galw i gof y profiad a gafodd ef ei hun o adael yr ysgol ar bnawniau Gwener a sbardunodd cân fel hon? Plant ysgol yn mynd adref i fwrw'r Sul ar bnawn Gwener yn y gaeaf -
Bnawn Gwener Gaeaf a'r machlud ar sglein, Drwy'r ffenestr hyd y coridor hir - Clep gwadnau a sodlau ar y concrit gwyn Wrth i'r caethion roi'u traed yn y tir.
Mae lleisiau'r meistri yn eu dilyn am sbel, A'u harabedd yn brathu i'r byw, Rhwng clogwyni erchyll Baalseffon y Garn A chreigiau Piahiroyj y Rhiw.
Ia, 'bwrw'r Su/' ac nid penwythnos a'r Sul hwnnw yn gofyn am gymhariaeth Feiblaidd.
Ai y rhain oedd y plant oedd yno pan ddaeth yr eos Olwen Lewis, o Fôn, yn athrawes gerdd yr ysgol? A phwy ond Gruffudd Parry, i gyfansoddi geiriau i ganeuon un a swynodd gynulleidfaoedd draw ac yma.?
Yna, fel y dywed yr Athro Gwyn Thomas yn ei gyflwyniad i'r gyfrol: "Fel awdur sgriptiau eneiniedig Co Bach yr hen raglen radio, Noson Lawen, y clywais i gyntaf am Gruffudd Parry . . ."
Dyma'r blynyddoedd pryd yr enillwyd clustiau'r miloedd i glywed am droeon Yr Hen Fodan a Wil Bach.
Cymaint o chwerthin iach fu ar ein haelwydydd yn nyddiau'r Co Bach.
Mae i'r gyfrol dair rhan, gan gychwyn gyda'r Cerddi ar destunau mor amrywiol a 'Mae hi'n dipyn o daith i Ewrop' a safle daearyddol cartref Gruffudd Parry ar benrhyn Llyn a'r canwr baledi Harri Richards yn gyfrwng ac yn ysbrydoliaeth i gyfansoddi baledi wrth y llath bron.
A'r faled fwyaf poblogaidd y dyddiau hyn yw'r un am Y Mewnlifiad.
Yma cewch blyciau o chwerthin dilywodraeth; Mi ddeudai chwi hanes hen lanc o Ben llyn Fu'n byw yn y Sarn yn ei fwthyn ei hun.
Cewch ddilyn hanes Dafydd wedi iddo droi yn David pan gyfarfu â Joan
Aeth Dafydd yn David pan gollodd ei ben I'r feinwen het silc a sgert ddu a blows wen, A ddwedodd wrth briodi'n yr offis yn dre 'Come on little lad let's take it away.'
Arwyddion dychanol o'r amserau gan feistr dychan a hwyl ar fydr ac odl.
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|
|