BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Plant ar Lein yn dewis Llyfrau Gwerth eu Darllen
Mae yna gyfle i blant Cymru ddewis eu llyfr gorau fel rhan o gynllun adolygu llyfrau ar-lein gan Gyngor Llyfrau Cymru.


Bydd y plant yn cael rhoi eu barn ar 24 o lyfrau a ddewiswyd fel rhai "Gwerth eu Darllen" ac yna dyfarnu sgôr o rhwng un a phum seren iddynt.

Cynyddu'r diddordeb mewn llyfrau a darllen yw'r bwriad ac mae'r Cyngor yn cynnig gwobr o werth £50 o lyfrau yr un i'r ugain ysgol gyntaf i anfon adolygiadau gan ddeg disgybl neu fwy i'r wefan.

Ac ar Ddiwrnod y Llyfr 2004 - dydd Iau Mawrth 4 - cyhoeddir teitlau'r ddau lyfr un Cymraeg ac un Saesneg a gafodd y nifer fwyaf o sêr.

"Rydyn ni eisiau annog rhagor o blant i ddarllen llyfrau ac ysgrifennu adolygiadau arnyn nhw. Trwy roi'r adolygiadau ar y we, rydyn ni'n eu hannog i wneud y ddau beth yma ac y mae hefyd yn fodd o wella eu sgiliau TGCh," meddai trefnydd Ymgyrch Gwerth eu Darllen, Lila Piette o Gyngor Llyfrau Cymru.

"A thrwy wobrwyo'r llyfrau â sêr, byddant hefyd yn cyfrannu at gyfanswm terfynol eu hoff lyfrau yn y casgliad, meddai.

Y llyfrau i bleidleisio iddynt ar hyn o bryd yw:
Blits - Dyddiadur Edie Benson, Llundain 1940 1941 gan Vince Cross, addasiad Eigra Lewis Roberts

O'r Lludw gan Michael Morpurgo, addasiad Gwen Redvers Jones

Dim Actio'n y Gegin gan Siân Lewis

Bympyti-Bymp gan Ruth Morgan

Help! Mae 'Na Hipo yn y Cwstard gan Sonia Edwards

Ta-ta Tryweryn! gan Gwenno Hughes

Y Ddynes a Enillai Bethau gan Allan Ahlberg, addasydd Dylan Williams

Gornest Reslo'r Menywod Cinio gan Nicholas Daniels

Psst! gan Gwyn Morgan

Hyfforddi Hirben gan Michael Coleman addasiad Dylan Williams

Tipyn o Gamp 1 gan Delyth George

Isi a'r Cloc gan Gwyn Morgan

Dwi'n Byw Mewn Sw Gyda'r Cangarw - Barddoniaeth Loerig am Anifeiliaid gan Myrddin ap Dafydd

Mae manylion y llyfrau a manylion pleidleisio arwefan Plant ar Lein ac yna clicio ar Gwerth eu Darllen ac mae rhagor o wybodaeth o gysylltu â Chyngor Llyfrau Cymru ar 01970 624151

Nod Diwrnod y Llyfr yw annog mwy o bobl o bob oed i ddarllen rhagor o lyfrau trwy brofi nad llyfrbryfed yw'r unig rai sy'n darllen!

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ysgolion, llyfrgelloedd a sefydliadau amrywiol i gynnal digwyddiad arbennig ar Ddiwrnod y Llyfr. Yn 2003, cymerodd miloedd o blant ac oedolion ran mewn gweithgareddau o bob math ledled Cymru.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy