BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwilym Owen, Dewi Pws a Meic Stevens
Nadolig y cofiannau fydd un 2003 i ddarllenwyr llyfrau Cymraeg.


Clawr Theleri Thwp
Rhwng hyn a'r Nadolig nid yn unig bydd un o ddarlledwyr mwyaf blaengar Cymru yn cyhoeddi ei hunangofiant ond bydd cofiant dau o adar brithaf adloniant Cymraeg yn cael eu cyhoeddi Theleri Thwp gan Dewi Pws a Cofiant y Brawd Houdini gan Meic Stevens.

Cyfnod cyffrous
Nid oes amheuaeth fod yna edrych ymlaen mawr at Crych Dros Dro gan Gwilym Owen sydd, Clawr Crych Dros Dro yn awr yn ei saithdegau, yn edrych yn ôl dros gyfnod eithriadol o gyffrous yn hanes Cymru.

Ac fel darlledwr yr oedd o yn yr union le iawn i weld mynd a dod holl gyffro a chwyldro ein hanes diweddar. Y mae o hefyd wedi holi ar radio neu deledu y rhai oedd fwyaf allweddol yn natblygiad y Gymru fodern.

Ychwanegwch at y cyfrolau hyn gyfrol am y llenor, Pennar Davies, yn y gyfres Dawn Dweud gan Wasg Prigfysgol Cymru a chyfrol Pregethwyr Môn gan Emlyn Richards sy'n ymuno â dwy gyfrol a gyhoeddwyd yn barod ganddo, Porthmyn Môn a Potsiars Môn

Yna o wasg Gomer daw Ymlaen â'r Gân, stori Gwenda owen y gantores a frwydrodd yn erbyn canser, Owen Edwards - Mari Emlyn ganSian Thomas, O Ffair Rhos i'r Maen Llog gan W. J. Gruffydd ac A'r Teitl Nesaf Fydd gan gwenyth Petty a sara Edwards.
,br>

Ond Gwilym Owen, Meic Stevens a Dewi Pws yw'r rhai i wylio yn cystadlu am le ar ben y siaratiau .

Clawr Cofiant Meic Stevensa'r gyntaf o'r tair cyfrol i gyrraedd y siopau fydd un Meic Stevens sydd eisoes wedi ei disgrifio fel "Cofiant Mwya'r Flwyddyn" gan y cylchgrawn Golwg.

Cignoeth o onest
Ac meddai'r awdur a'r darlledwr Lyn Ebeneze: Bwrlwm o hunangofiant, gan athrylith sy'n gignoeth yn ei onestrwydd."

Yn Hunangofiant y Brawd Houdini, datgelir am y tro cyntaf sut y darganfuwyd Meic fel canwr a chyfansoddwr gan Jimmy Savile ym Manceinion yn 1965.

Tra roedd Savile ar ymweliad â bar Undeb Myfyrwyr Manceinion yn hanner noeth mewn shorts bocsiwr streipiog, cyflwynwyd Meic i'w reolwr Reese Edwards, a ddaeth yn frwd i'w arwyddo a'i gael i weithio yn y byd pop yn Lloegr.

O ganlyniad cafodd Meic ei arwyddo gan Decca cwmni a oedd newydd wrthod y Beatles! a chyhoeddodd ei sengl gyntaf, Did I Dream.

O ganlyniad bu Meic Stevens yn teithio a hybu'r record a chwarae mewn clybiau mawr yng ngogledd Lloegr ac ar deledu rhanbarthol yr ardal wrth i'w yrfa fel canwr ddechrau o ddifri.

Trafferthion cyffuriau
Dechrau yn unig oedd Did I Dream gan y datgelir yn ei hunangofiant sut llwyddodd Meic i gael ei arwyddo gan Warner Brothers ddiwedd y 60au; chwarae ar yr un llwyfan â Bob Dylan yng ngwyl Ynys Wyth 1969; recordio record gyntaf Sain gyda Huw Jones yn Llundain; sefydlu'r Bara Menyn a llwyddo gyda'i recordiau a'i berfformiadau teledu yng Nghymru ar Disg a Dawn.

Datgelir hefyd sut y dechreuodd ysgrifennu ac addasu ei ganeuon Cymraeg cynnar nifer o'i rai enwocaf gyda chymorth W R Evans yn Sir Benfro, ac yna gyda Hywel Gwynfryn oedd newydd ddechrau gyda'r BBC.

Dyw Meic chwaith ddim ofn mynd i fanylion am ei drafferthion gyda chyffuriau, ei broblemau personol gyda'i wraig.

"Ceir degau o straeon doniol a difyr am nifer o enwogion byd y cyfryngau a cherddoriaeth yng Nghymru ar y pryd," meddai'r cyhoeddwyr.Cyhoeddir y gyfrol ddydd Llun Rhagfyr 1 2003 gyda digwyddiad yn Celtica Machynlleth ar Ragfyr 5 a ddilynir gan gyngerdd gan Meic Stevens ei hun.

Yr un noson bydd Theleri Thwp gan Dewi Pws Morris a Crych Dros Dro gan Gwilym Owen yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad ym Mhlas Menai ger Caernarfon.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy